Beth yw Eurfa (http://www.eurfa.org.uk)?Geiriadur sylweddol rhydd (dan y GPL) i'r Gymraeg yw Eurfa, yr un cyntaf erioed. Ar hyn o bryd, mae Eurfa yn cynnwys tua 10,000 gair sylfaenol, ac 400,000 ffurf treigledig a berfol ychwanegol a seilir ar y rhain (y tro cyntaf erioed i ffurfiau fel hyn gael eu cynnwys mewn geiriadur Cymraeg, neu mewn geiriadur unrhyw iaith Geltaidd). Cynigir dau gymhwysiad arddangosol hefyd: Rhigymydd a Trosiadur. Beth ydych chi'n ei olygu wrth "rhydd"?Mae Eurfa yn "rhydd" gan nad oes angen ei brynu, ond mae'n "rhydd" hefyd yn ystyr "meddalwedd rhydd" - am fwy o wybodaeth, gweler gwefan y Free Software Foundation. Beth yw meddalwedd rhydd?Mae meddalwedd rhydd yn gwarantu i'r defnyddiwr y rhyddid i ddefnyddio'r meddalwedd, i'w astudio, i'w gopïo, ac i'w wella. Felly mi gewch chi lawrlwytho Eurfa i'ch PC, ei rannu efo eich ffrindiau, ei olygu, neu hyd yn oed adeiladu cymhwysiadau newydd (e.e. croeseiriau, thesawrws) efo fo. (Pe gwnelech hyn efo meddalwedd perchnogol fel Microsoft Windows, Apple MacOS X, Adobe PhotoShop, Sage Line500, ayyb, byddech yn debyg o gael eich erlyn am dorri deddf hawlfraint.) Yn ddelfrydol, mi fyddwch yn cynnig gwelliannau dan yr un amodau, a bydd y rhannu yma yn gadael inni i gyd (a'r Gymraeg!) gymryd mantais o amrywiaeth lletach o offer sy'n hawdd eu defnyddio. Diogelir meddalwedd rhydd gan Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol y GNU (GPL). Yn ogystal â rhoi'r 4 rhyddid uchod, mae'n atal budrelwa a chael rhywbeth heb gyfrannu drwy wahardd ailddosbarthu dan amodau mwy cyfyngedig. Er enghraifft, mae defnyddio meddalwedd GPL mewn meddalwedd perchnogol (er mwyn manteisio ar waith a wnaed gan rywun arall) yn golygu bod rhaid i'r meddalwedd perchnogol gael ei aildrwyddedu dan y GPL cyn ei ddosbarthu yn gyfreithlon. Mae'r model meddalwedd rhydd yma wedi arwain at ffrwydriad arloesol dros y blynyddoedd diweddar: mae meddalwedd rhydd yn cael ei ddefnyddio gan gwmniau mawr fel IBM, Oracle, Novell, Google, Amazon a Yahoo, yn ogystal a gan fusnesau bach a llawer o gyrff llywodraethol ledled y byd. Sut cafodd Eurfa ei chreu?Seilir y fersiwn cyntaf yma o Eurfa, a gymerodd tua 9 mis i'w ddatblygu gennyf, ar "weinydd geiriadur" prawf cysyniad (ar gael o hyd yma) a ryddhawyd gennyf ym mis Rhagfyr 2003. Mae Eurfa yn un o gyfres o gyweithiau gwirfoddol (Kyfieithu, Korrect, Cymrux, Konjugator) bum yn gweithio arnynt dros y 3 blynedd diwethaf er mwyn codi proffeil y Gymraeg ar gyfrifiaduron drwy gyfieithu meddalwedd rhydd. Mae Eurfa yn rhan o gasgliad o offer geiriol arfaethedig fydd yn hwyluso'r dasg o gyfieithu meddalwedd rhydd i'r Gymraeg - ar hyn o bryd, y bwriad yw creu geiriadur, gwirydd sillafu, gwirydd gramadeg, ac efallai awto-gyfieithydd. Bydd yr offer yma i gyd yn cael eu rhyddhau dan y GPL, am fod hyn yn golygu y bydd yr algorithmau a ddefnyddir ynddynt ar gael i'w hadolygu a'u gwella, a bydd yn bosibl defnyddio'r data tu ôl iddynt mewn cyweithiau eraill. (Er bod gwirydd perchnogol ar gyfer sillafu a gramadeg mewn bodolaeth (Cysgliad Canolfan Bedwyr), nid yw hwn ar gael dan y GPL neu yn agored i newidiadau, ac mae'n rhedeg yn frodorol ar Microsoft Windows yn unig. Mae fersiwn Cymraeg o'r gwirydd sillafu rhydd (dan y GPL) aspell mewn bodolaeth, er fod rhai diffygion ynddo. Ffordd meddalwedd rhydd o gynhyrchu'r offer yma yw adeiladu ar rywbeth sydd ar gael eisoes, a gyda lwc bydd rhywun wedi gwneud llawer o'r gwaith caled ers dipyn o amser. Mae'r Athro Kevin P Scannell wedi creu Gramadóir, gwirydd sillafu a gramadeg ar gyfer y Wyddeleg, a bu ddigon garedig fy helpu i drosi hwnnw i'r Gymraeg. Hyd yn hyn, datblygwyd Rhedadur i drin furfiau berfol, ac mae Eurfa rwan yn darparu gwybodaeth bwysig rhan ymadrodd ar gyfer geiriau sylfaenol. Mae modd defnyddio'r trosiad Cymraeg o Gramadóir i wirio sillafu yn barod. Rydym yn canolbwyntio rwan ar ran nesaf y cywaith (diffinio rheolau gramadeg), a mwy na thebyg bydd fersiwn cychwynnol o'r gywirydd sillafu yn cael ei ryddhau erbyn diwedd haf 2006. Y cam nesaf fydd integreiddio'r offer yma i mewn i feddalwedd swyddfa fel y casgliad KOffice, fydd yn gwella hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr, a meddalwedd cyfieithu fel KBabel, fydd yn hwyluso tasg y cyfieithwyr o KDE a chymwysiadau eraill. O ble mae'r geiriau yn Eurfa wedi dod?Yn anffodus, am fod yna ddiffyg o adnoddau geiriol Cymraeg dan drwydded agored (heblaw am gwpl o restrau bach o ansawdd amheus), roedd rhaid i Eurfa ddechrau o'r dechrau. (Ymddengys nad yw hyn yn orfodol mewn ardaloedd eraill lle mae yna iaith leiafrifol - er enghraifft, mae Termcat, y corff swyddogol sy'n goruchwylio terminoleg Catalaneg, wedi cyhoeddi yn ddiweddar ei fod am gydweithio â'r tîm KDE Catalaneg.) Roedd y fersiwn cynharach o Eurfa yn cynnwys adnoddau wedi'u cyhoeddi er mwyn arddangos y cysyniad, ond roedd rhaid cael gwared â hyn inni gael fersiwn GPL dirwystr. Felly, mae bob gair yn Eurfa wedi cael ei ddethol, ei fewnosod, a'i olygu yn unigol gennyf fi. Mae'r detholiadau, wedi eu tagio yn y brif gronfa ddata, yn cynnwys pethau fel y 5,000 gair mwyaf cyffredin yn Crubadán, corpws yr Athro Kevin P Scannell o 96m gair Cymraeg ar amrwyiol wefannau, y corpws o gyfieithiadau KDE hyd yn hyn, casgliadau ad hoc a seilir ar destunau sydd ar gael ar wefannau'r Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, ac ati. Sut gafodd Eurfa ei hadeiladu?Gan ddefnyddio sgriptiau a ddatblygwyd gan yr Athro Prof Scannell, crëwyd rhestrau o eiriau unigol, a chafwyd gwared â'r rhai oedd yn Eurfa eisoes (yr anfantais yma yw ein bod ni'n tybio nad oes ond un ystyr i bob gair, ond ar hyn o bryd mae'n fwy pwysig canolbwyntio ar eiriau unigol - gellir ychwanegu ystyron lluosol yn ddiweddarach). Gafodd pob gair unigol ei archwilio gennyf fi, i waredu geiriau wedi'u camsillafu, ychwanegu ystyr, ac ychwanegu gwybodaeth am rannau ymadrodd a genedl. Wrth archwilio, ddefnyddiais nifer o ffynonellau: Geiriadur yr Academi (Bruce Griffiths, Dafydd Glyn Jones, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995), Geiriadur Prifysgol Cymru (amrywiol, University of Wales Press, 1950- ), Geiriadur Mawr (H Meurig Evans, WO Thomas, Christopher Davies/Gwasg Gomer, 1976), Termiadur Ysgol (Delyth Prys, J Prys Morgan Jones, ACCAC, 1978), Collins Spurrell Welsh Dictionary (DA Thorne, HarperCollins, 1991), Modern Welsh (Gareth King, Routledge, 1993), Guide to Correct Welsh (Morgan D Jones, Gwasg Gomer, 1976). Rwyf yn ddiolchgar iawn i awduron y ffynonellau yma i gyd am ysbrydoli fy ngwaith. Myfi, wrth gwrs, sy'n gyfrifol am yr ystyr terfynnol a gwybodaeth arall a roddir i air penodol; felly arnaf i mae'r bai am unrhyw gamgymeriadau. Ar ôl i'r rhestr gael ei archwilio, mae sgript yn creu cofnodion lluosog o'r cofnodion unigol, ac wedyn mae sgriptiau pellach yn cyfuno'r rhestrau berfol o Redadur a'r prif restr diferf. Mae sgriptiau eraill wedyn yn cynhyrchu ffurfiau treigledig o'r cofnodion yma, yn ogystal â ffurfiau treigledig o'r rhestr o ffurfiau berfol a greuwyd gan Redadur. Ond oes geiriaduron Cymraeg arlein ar gael eisoes?Oes, mae nifer o gyrff wedi darparu rhyngwynebau i adnoddau sydd wedi cael arian cyhoeddus (yn rhannol, o leiaf). Ond mae hyn yn debyg i rywun yn adeiladu storfa wenith, ac wedyn dosbarthu'r gwenith un gronyn ar y tro. Mae diffygion yn y rhyngwynebau: ni allwch chwilio am fwy nag un gair ar y tro (fel Trosiadur), neu edrych ar grwpiau o eiriau (e.e. ffurfiau berfol, neu eiriau sy'n odli), neu lawrlwytho'r rhestr i'ch PC (e.e. i gyflymu chwiliadau, neu i ddefnyddio i adeiladu offer newydd), neu adeiladu rhyngwyneb newydd i'r rhestr geiriau (e.e. i ychwanegu iaith newydd megis Ffrangeg neu Almaeneg). Ond ydy hi'n wirion na allwch ddefnyddio rhestrau geiriau a greuwyd â chyllid cyhoeddus?Mae gorfod gwario amser ar hyn yn ddiflas iawn, yn arbennig pe byddai'n bosibl i ddefnyddio'r amser ar rywbeth mwy manteisiol, ond mae'n mynd yn haws wedi'r 5,000 gair cyntaf :-) Yr unig obaith yw y bydd cyrff megis Bwrdd yr Iaith, Gwasg Prifysgol Cymru ac eraill yn cydnabod o'r diwedd faint o niwed a wna hyn i'r Gymraeg yn yr oes ddigidol, a symud tuag at agwedd fwy agored. Yn arbennig, dylai hi fod yn amod o unrhyw gefnogaeth ariannol i gywaith, fod canlyniadau'r cywaith ar gael dan drwydded agored. Mae'r barn yn tyfu na ddylai'r cyhoedd orfod talu yn anuniongyrchol i gasglu gwybodaeth, ac wedyn talu unwaith eto i'w defnyddio - gweler, e.e., yr ymgyrch Free Our Data a lansiwyd yn ddiweddar gan y Guardian. Mae hyn yn gyson â'r mudiad am Gyrchiad Agored i wybodaeth academaidd, y mudiad Comin Creadigol i ganiatáu defnydd hyblyg o weithiau creadigol, ac yn y blaen. Ond oes perygl o "wenwyno'r ffynnon" os ryddheir rhestrau geiriau dan drwydded agored?Mae'n annhebygol iawn y byddai rhywun yn ymyrryd â rhestrau geiriau dan y GPL i roi geiriau anghywir neu gamarweiniol, ond mae gan y mudiad meddalwedd rhydd ffordd hawdd o ddelio gyda hyn beth bynnag. Lawrlwythir pob cymhwysiad oddiar wefan "feistr", i'r defnyddiwr fod yn sicr o gael y "peth go iawn". Gall perchnogion y rhestr geiriau wneud yr un peth, ac os bydd rhywun yn poeni bod y rhestr geiriau a gafwyd oddiwrth ffynhonnell amheus yn llygredig, mi allen nhw ei lawrlwytho eto o'r ffynhonnell ymddiriedol yma. Sut allech chi ryddhau rhestrau geiriau pan maen nhw'n cael eu golygu a'u ehangu o hyd?Mae'r hyn yn digwydd yn y mwyafrif o gyweithiau meddalwedd rhydd. Mae pobl o hyd yn gweithio ar brif god y rhaglen, a elwir "y gangen ddatblygiad" neu "pen" neu "boncyff". Bob hyn a hyn, unai ar ôl cyfnod penodol neu pan mae'r rhaglenwyr yn teimlo bod digon o nodweddion newydd wedi eu hychwanegu, holltir copi o'r cod i mewn i gangen "sad", sy'n cael ei rhyddhau. Golyga hyn y gall y rhaglenwyr barhau i weithio ar y cod, tra gall defnyddwyr gael fersiwn "wedi'i orffen". Gall perchnogion y rhestr geiriau wneud yr un peth, gan hollti copïau o'r rhestr geiriau a'u rhyddhau i'w defnyddio yn gyffredinol, tra'n parhau i weithio ar y rhestr geiriau "datblygiad" yn y cefndir. Dyma agwedd hollol wahanol i gymharu efo cyfryngau argraffedig neu hyd yn oed meddalwedd perchnogol, lle mae'n rhaid (am resymau cost) i gywaith gael ei gwblhau (mwy na lai) cyn iddo gael ei ryddhau. Gyda meddalwedd rhydd, ar y llaw arall, "rhyddhewch yn gynnar, rhyddhewch yn aml" yw'r arwyddair. Ond oes modd i bobl gopïo Eurfa a rhyddhau eu fersiynau eu hunain?Oes - mae'r GPL yn caniatáu hyn. Ond rhaid i fersiynau "hollt" fel hyn fod dan y GPL hefyd, felly hyd yn oed os na fyddai'r awduron yn adgyfrannu eu hychwanegiadau i Eurfa, mi alla' i eu defnyddio nhw. Mae'r math o amddiffyniad yma yn ymresymiad mawr ar gyfer defnyddio'r GPL fel y drwydded agored o ddewis ar gyfer y math yma o adnoddau geiriol. Gaf i wneud copi o Eurfa i'm defnydd fy hun, neu i'w rhoi i'm ffrindiau?Croeso i chi wneud hyn - mae Eurfa dan y drwydded GPL, sy'n disgwyl i chi fod eisiau gwneud hynny. Pe gallech chi neu eich ffrindiau adgyfrannu unrhyw eiriau a ychwanegir, byddai hyn yn helpu Eurfa i dyfu a mynd yn fwy defnyddiol fyth, ond nid yw hyn yn amod hanfodol. Sut bydd Eurfa yn cael ei datblygu yn y dyfodol?Gobeithio y gall Eurfa ehangu dros amser o'r sylfaen gadarn yma i gynnwys bron bob un gair ac ymadrodd yn yr iaith Gymraeg fodern. Yn ddiamau, mae yna lawer o gasgliadau geiriau preifat, ad hoc mewn bod, a byddai'n gwneud llawer o synnwyr iddyn nhw gael eu cyfuno i greu cyfan sy'n fwy na chyfanswm ei ddarnau. Yn yr un modd, mwy na thebyg, mae yna glamp sylweddol o adnoddau geiriol ar gudd yn nhudalennau llyfrau sy'n allan o brint sy'n annhebyg o gael eu hailgyhoeddi byth, ac efallai hoffai cyhoeddwyr ystyried rhyddhau yr adnoddau yma dan drwydded agored, i gael eu hychwanegu at Eurfa. Efallai hefyd hoffai unigolion neu mudiadau ystyried cynnig darnau o destun digidol (e.e. casgliadau erthyglau cylchgrawn neu bapur newyddion), a gall eu mwyngloddio i gynhyrchu rhestrau o eiriau newydd i'w hychwanegu at Eurfa. Gaf i gyfrannu at Eurfa?Os hoffech gyfrannu casgliadau geiriau at Eurfa i adael i eraill fanteisio arnyn nhw, croeso i chi gysylltu â mi yn uniongyrchol ( Croeso i chi gysylltu â mi yn uniongyrchol ( Sut ga' i drosglwyddo'r geiriau yn Eurfa i'm PC fy hun?Ewch i'r dudalen lawrlwytho i gael copïau o'r rhestrau geiriau a allwch eu mewnforio i daenlen neu gronfa ddata. Nid yw Eurfa yn cynnwys {rhyw air} - ga' i newid hyn?Os ydych yn defnyddio copi lleol, ychwanegwch y wybodaeth berthnasol ar gyfer y gair newydd i'ch taenlen neu gronfa ddata. Os ydych yn ychwanegu llawer o eiriau, mi fuaswn i'n ddiolchgar iawn cael rhestr, iddyn nhw gael eu hychwanegu i fersiwn nesaf Eurfa. Beth yw Rhigymydd?Cymhwysiad bach arddangosol a gynigir efo Eurfa yw Trosiadur, gyda'r bwriad o ddangos y gall geirfa rydd fod yn sylfaen ddefnyddiol i ddatblygu rhagor o offer fydd o ddiddordeb i'r rhai sy'n gallu Cymraeg. Mae Rhigymydd yn defnyddio Eurfa i gynhyrchu rhestrau o eiriau sy'n odli. Nid yw'r canlyniad yn annhebyg i Odliadur Roy Stephens (Gwasg Gomer, 1978). Nid yw'r fersiwn yma o Rigymydd yn chwilio drwy ffurfiau treigledig, er bod hyn yn hawdd ei newid pe bo angen. Gan ddefnyddio cystrawen arbennig, mae modd llacio'r amodau er mwyn creu cyseinedd a cyflythreniad, yr hyn nad yw'n bosibl efo'r Odliadur. Beth yw Trosiadur?Cymhwysiad bach arddangosol a gynigir efo Eurfa yw Trosiadur, â'r bwriad o ddangos y gall geirfa rydd fod yn sylfaen ddefnyddiol i ddatblygu rhagor o offer fydd o ddiddordeb i'r rhai sy'n gallu Cymraeg. Mae Trosiadur yn cyflymu cyfieithu drwy gynhyrchu testun allbwn sy'n rhoi yr ystyron Cymraeg i gyd sydd yn Eurfa ar gyfer pob gair Saesneg yn y testun mewnbwn. Beth yw Kyfieithu?Ymdrech wirfoddol, wedi'i lansio ym mis Mawrth 2003, yw Kyfieithu, i gyfieithu'r prif weithfwrdd Linux, KDE, i'r Gymraeg. Mae'r 50% o'r gwaith wedi'i wneud, diolch i tua 30 o gyfranwyr hyd yn hyn. Mae timau eraill wedi cyfieithu'r gweithfwrdd Linux (llai), GNOME, a'r casgliad swyddfa, OpenOffice.org. (Am ryw reswm, dechreuodd Microsoft gyfieithu Microsoft Windows i'r Gymraeg ym 2004, ar ôl blynyddoedd o anwybyddu galwadau am fersiwn Cymraeg ...) Beth yw Kywiro?Mae Kywiro yn gasgliad o bron pob cyfieithiad a wnaed hyd at ganol-2005 gan y bobl sy'n gweithio ar greu meddalwedd rhydd yn Gymraeg. Mae'n gadael i'r cyfieithydd gymharu'r y geiriau a ddefnyddwyd gan eraill wrth gyfieithu ymadroddion Saesneg. Nid oes angen Kywiro rwan, a gall ei amnewid gan Eurfa, sydd wedi safoni'r termau i'w defnyddio yn y cyfieithiad KDE yn y dyfodol. Beth yw Cymrux?Gan fod llawer o waith wedi ei wneud ar y cyfieithiad KDE erbyn haf 2004, roedd yn bosibl creu CDbyw arddangosol i ddangos sut oedd pethau yn edrych - gafodd Cymrux ei ddangos yn Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn honno. Mae'n debygol y bydd fersiwn newydd wedi'i seilio ar SUSE yn cael ei wneud yn nes ymlaen eleni. Beth yw Rhedadur?Mae Rhedadur, a ryddhawyd ym mis Gorffenaf 2005, yn creu tua 200,000 ffurfdroeon berfol ar gyfer bron 4,000 berf Cymraeg, efo dehongliadau yn Saesneg a gwybodaeth dosrannu. Yn ychwanegol, mi fydd Rhedadur yn ceisio rhedeg berfau Cymraeg sy'n anhysbys iddo, a bydd yn rhoi manylion dosrannu ar gyfer ffurfdroeon Cymraeg os byddai'r rhain yn hysbys iddo. Cynhwysir y ffurfdroeon a gynhyrchir gan Redadur yn Eurfa. Beth yw Linux?Amgylchedd cyfrifiaduro cyflawn yw Linux (neu GNU/Linux) - safach, rhatach a chymflymach nag eraill megis Microsoft Windows neu Apple MacOS X, ac (yn well na nhw) yn rhydd i'w gopïo a'i newid. Dechreuwyd Linux fel cywaith personol ym 1991 gan fyfyriwr o'r Ffindir o'r enw Linus Torvalds, ac mae'n defnyddio'r offer cyfrifiaduro GNU a'u datblygwyd gan Richard M Stallman, tad meddalwedd rhydd. O achos cyfraniadau oddiwrth cannoedd o raglenwyr gwirfoddol ledled y byd, mae GNU/Linux yn bwysig iawn ym myd cyfrifiaduro - ym 2005, enillodd bron 33% o'r refeniw a enillodd Microsoft Windows, ac roedd yn tyfu 4 gwaith cyflymach. Beth yw KDE?Dechreuwyd y cywaith KDE (K Desktop Environment) ym 1996 gan Matthias Ettrich i gynhyrchu rhyngwyneb cyfoes nerthol i Linux. Beth yw Krowbar?Gweinydd geiriadur yw Krowbar, h.y. sgriptiau sy'n gadael i chi ddefnyddio eich PC fel geiriadur. Rhyddhawyd fersiwn cyntaf Krowbar â'r prawf cysyniad Eurfa ym mis Rhagfyr 2003, ac roedd modd ychwanegu geririau arlein. Mae'r fersiwn cyfredol (ar gael yma) wedi disgyn y nodwedd yma, gan fod rhaid imi adolygu pob gair sy'n cael ei ychwanegu i Eurfa. Os ydych yn defnyddio Krowbar yn lleol, mae'n haws fodd bynnag defnyddio rhyngwynebau i'ch cronfa ddata i ychwanegu geiriau unigol, neu fewnforio rhestrau geiriau. Geiriau, geiriau, geiriau!Mae gweithio efo geiriau wedi bod yn achosi plenbleth am flydyddoedd, fel y gallwn weld yn y farddoniaeth fendigedig a gafodd ei hysgrifennu yn y 9ed canrif gan fynach Gwyddelig ym Mynachdy Pol Sant, yng Ngharinthia. Mae'r testun Gwyddelig yn Thesaurus Palaeohibernicus, a olygwyd gan John Strachan a Whitley Stokes (1901-10, 1975), ac mae ganddi saith sillaf ar bob linell, efo sillaf derfynol ddiacennog yn y llinellau ailrif yn odli â'r sillaf derfynol acennog yn y llinellau odrif. Mae'r cyfieithiad Cymraeg gan T Gwynn Jones yn Awen y Gwyddyl (1922). Mae'r cyfieithiad Saesneg medrus gan Robin Flower yn 1000 Years of Irish Poetry, golygwyd gan Kathleen Hoagland (1947).
|
