storfa aur, geirfa'r iaith!

Eurfa ::  Rhigymydd ::  Trosiadur ::  Cefndir ::  Lawrlwytho ::  Kyfieithu ::  Rhedadur ::  Cymrux ::     [English]

Eurfa and dictd

Mae dictd (daemon geiriadur) yn brotocol a ddyluniwyd i rannu geiriaduron dros rwydwaith. Mae'r wefan fwyaf am eiriaduron rhydd, Freedict, yn defnyddio'r fformat. Mae trosi Eurfa i fformatau gwahanol yn hawdd, ac mae'r fersiwn dictd yn gadael inni ddefnyddio Eurfa efo dibynyddion dictd:

Kdict (Linux)

Ar gael eisoes yn Gymraeg fel rhan o'r cywaith Kyfieithu, ond wedi'i adolygu ar gyfer y fersiwn yma o Eurfa:

OmniDictionary (Apple Mac)

Magical Jellybean Dictionary (Microsoft Windows)

Nid wyf yn siŵr os mae'r rhaglen yma yn dal i gael ei datblygu:

KTranslator

Mae Raul Fernandes wedi datblygu'r rhaglen yma i gael hyd at geiriaduron yn gyflym ar y gweithfwrdd. Mae'n cefnogi'r fformatau dictd, StarDict, Sdict, Babylon dic, a testun plaen, ac mae ganddi gefnogaeth gychwynnol am y fformatau Babylon bgl, Freedict XML, Atlantida, ac XDXF. Cyfieithwyd KTranslator i Gymraeg ar gyfer y fersiwn yma o Eurfa.

Mae KTranslator yn rhaglen arunigol, ond gellir galw fersiwn naidlen gan wthio'r fysell Ctrl (addasiadwy) a dwbl-glicio. Mae'r canlyniad yn debyg i BBC Geirfa, heblaw ei bod hi'n bosibl i chwilio yn y geiriadur dros bron pob rhaglen ar y gweithfwrdd, yn hytrach nag ar dudalennau gwe yn unig:

Defnyddio Dictd

Mae'r fersiwn safonol o Eurfa yn defnyddio cymhwysiad PHP o'r enw Krowbar. Mae'n llai o waith i'w ffurfweddu na dictd, ac mae'n gweithio yn hawdd dros rwydwaith, gan ei fod yn defnyddio porydd yn hytrach na dibynnydd arbennig. Hefyd, mae'n haws (i mi!) gwneud newidiadau mân i'r chwiliadau, i ddangos cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl. Ar y llaw arall, mae cael y data yn Eurfa mewn fformat a ellir ei ddefnyddio ar y gweithfwrdd yn ddigon defnyddiol i wneud trosiad yn werthchweil.

Rhedir y prif dabl o eiriau sylfaenol yn Eurfa (eurfa_nmni) drwy dau sgript PHP sy'n creu ffeiliau xml Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg. Rhedir y ffeiliau yma drwy'r sgriptiau adeiladu Freedict i greu ffeiliau dict.dz ac index - Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg. Yn anffodus, mae defnyddio'r sgriptiau adeiladu yn broses go gymhleth, ac rwyf yn ddiolchgar i Michael Bunk a Kęstutis Biliūnas am eu cymorth yma.

Noder: gan mai y tabl geiriau sylfaenol yn unig a ddefnyddir, bydd chwiliadau ar ffurfiau treigledig a ffurfiau berfol yn rhoi ateb gwag. Os oes gofyn, gallaf ystyried cynnwys y rheiny hefyd.

Mae nifer bach o wallau fformatio i'w weld hefyd (e.e. enwau'r ffeiliau geiriadur), ond nid ydynt yn ddifrifol, a gellir eu trwsio yn y dyfodol.

Trefnu gweinydd dictd

(Noder: nid yw trefnu gweinydd yn angenrheidiol i ddefnyddio KTranslator - yr unig beth sydd angen yna yw dewis Offer -> Hoffterau -> Geiriaduron ->Ychwanegu, a dilyn y dewin i bwyntio at leoliad y ffeiliau Eurfa dictd.)

Y peth hawsaf yw ffurfweddu dictd ar flwch Linux - mae'r cyfarwyddiadu yma ar gyfer openSUSE, ond bydd dosbarthiadau eraill yn debyg. Arsefydlwch y pecyn dictd. Symudwch y ffeiliau Eurfa dictd i blygell o'ch dewis, er enghraifft /usr/share/dict. Copiwch y ffeil ffurfweddu sampl i leoliad sy'n gwneud synnwyr, e.e:

cp /usr/share/doc/packages/dictd/example.conf /usr/local/etc/dict.conf

Golygwch dict.conf i gynnwys hyn (noder: rwyf yn cymryd ei bod hi'n bosibl cyrraedd y gweinydd o'r LAN yn unig):

	access {
		allow *
		}
	database eurfa_cym {
		data "/usr/share/dict/eurfa_cym.dict.dz"
		index "/usr/share/dict/eurfa_cym.index"
	}
	database eurfa_eng {
		data "/usr/share/dict/eurfa_eng.dict.dz"
		index "/usr/share/dict/eurfa_eng.index"
	}
	

Cadwch y ffeil. Golygwch /usr/sbin/rcdictd (y sgript cychwyn openSUSE), a'i phwyntio at y ffeil ffurfweddu gan newid y llinell:

startproc $DICTD_BIN -L /var/log/dictd

i:

startproc $DICTD_BIN -L /var/log/dictd -c /usr/local/etc/dict.conf

Wedyn, cychwynnwch y gweinydd dict:

rcdictd start

Ffurfweddwch eich dibynnydd i bwyntio at y gweinydd yma. Er enghraifft, yn Kdict, ewch at Gosodiadau -> Ffurfweddu Kdict -> Gweinydd, a rhowch gyfeiriad IP eich gweinydd. Bydd Gweinydd -> Gwybodaeth Weinydd yn dangos gwybodaeth am y gweinydd. Bydd Gweinydd -> Nôl Galluoedd yn dangos rhestr o'r geiriaduron yn /usr/share/dict. (Rhaid i chi wneud hyn bob tro yr adolygwch y rhestr geiriaduron, neu na fyddent yn ymddangos yn y cwymplen.) Efallai bydd angen i chi benodi ffont (e.e. Gentium) sy'n gallu dangos pob llythyren acennog - Gosodiadau -> Ffurfweddu Kdict -> Golwg, a brithwch Defnyddio Ffontiau Addasiedig.