Lawrlwytho EurfaMae'r rhestrau geiriau Eurfa ar gael i lawrlwytho yn y fformat CSV. Mae'r ffeil gywasgedig (a ellir ei datgywasgu efo meddalwedd fel WinZip os ydych yn defnyddio Microsoft Windows) yn cynnwys ffeil yn y fformat CSV. Golyga hyn y dylech chi allu eu mewnforio i daenlen neu (yn well) gronfa ddata, ac edrych arnyn nhw yno. Mae modd adeiladu'r ddwy ffeil _tr o'r lleill, gan ddefnyddio'r sgriptiau yn y cyfeiriadur utils yn y lawrlwythiad Krowbar, ond maen nhw ar gael yma er hwylustod. Fersiwn cyfredoleurfa_nmni_v2 - 12,630 geiriau sylfaenol (180 Kb, datgywasgu i 720 Kb) eurfa_tr_v2 - 17,966 treigladau o'r geiriau sylfaenol yn eurfa_nmni_v2 (237 Kb, datgywasgu i 1.4 Mb) eurfa_gbl - 196,605 ffurfiau berfol (allbwn Rhedadur) (1.6 Mb, datgywasgu i 14.4 Mb) gbl_tr - 188,568 treigladau o'r ffurfiau berfol yn eurfa_gbl (1.9 Mb, datgywasgu i 17.5 Mb) Fersiynau cynharacheurfa_nmni - 10,272 geiriau sylfaenol (129 Kb, datgywasgu i 568 Kb) eurfa_tr - 15,816 treigladau o'r geiriau sylfaenol yn eurfa_nmni (195 Kb, datgywasgu i 1.2 Mb) Lawrlwytho KrowbarMae'r sgriptiau ar gyfer y rhyngwyneb gwe (the dictionary server Krowbar), a'r sgriptiau a ddefnyddir i adeiladu'r rhestri Eurfa mwyach o'r rhai bach ar gael hefyd i lawrlwytho ar wahân. I ddefnyddio'r rhain, bydd rhaid i chi gael gweinydd gwe yn rhedeg ar eich PC (argymhellir Apache, am fod 70% o'r Rhyngrwyd yn ei ddefnyddio), ac arsefydlu'r iaith sgriptio PHP a'r gronfa ddata PostgreSQL database installed. Mi fyddai hi'n syniad da i arsefydlu rhywbeth fel phpPgAdmin hefyd. Mae sgript i greu'r tablau PostgreSQL gwag yn y cyfeiriadur postgres, a gellir defnyddio'r ffeiliau data uchod i lenwi'r tablau wedyn. Noder: mae'r lawrlwythiad yma yn cynnwys Rhigymydd, ond dim Trosiadur, am ei fod yn defnyddio rhai dablau ychwanegol. |
