Beth yw Rhigymydd?Mae Rhigymydd yn defnyddio Eurfa i gynhyrchu rhestri o eiriau sy'n odli. Nid yw'r canlyniad yn annhebyg i Odliadur Roy Stephens (Gwasg Gomer, 1978). Nid yw'r fersiwn yma o Rigymydd yn chwilio drwy ffurfiau treigledig, er bod hyn yn hawdd i newid os bo angen. Gan ddefnyddio'r gystrawen arbennig a amlinellir yn isod, mae modd llacio'r amodau er mwyn creu cyseinedd a cyflythreniad, sy ddim yn bosibl efo'r Odliadur. Sut i ddefnyddio RhigymyddMae Rhigymydd yn chwilio yn Eurfa gan ddefnyddio "mynegiadau rheolaidd" ar gyfer y dilyniant o lythrennau ar ddiwedd y gair. Os rhowch enol, er enghraifft, mi gewch chi bob gair yn Eurfa sy'n terfynu efo enol, e.e. blaenol, sylfaenol. Mae modd i chi ddefnyddio cystrawen arbennig i addasu'r chwiliad: [ ] - trinir llythrennau unigol tu mewn i gromfachau sgwâr fel amgenau, e.e. os rhowch a[nm]au, mi gewch chi bob gair yn Eurfa sy'n terfynu efo anau neu amau, e.e. tanau, camau ( | ) - trinir grwpiau o lythrennau tu mewn i gromfachau, ac wedi'u gwahanu gan nod peipen (fel rheol, syflyd+\ ar y bysellfwrdd), fel amgenau, e.e. os rhowch a(ch|g)os, mi gewch chi bob gair yn Eurfa sy'n terfynu efo achos neu agos. Gellir estyn hyn fel bo angen, e.e. os rhowch a(r|f)(a|e)(ch|dd), mi gewch chi bob gair sy'n terfynu efo arach, arech, aradd, aredd, afach, afech, afadd, afedd, e.e. cynharach, pedwaredd, edafedd ? - trinir llythyren a ddilynir gan ? fel dewisol, e.e. os rhowch enn?ol, mi gewch chi bob gair yn Eurfa sy'n terfynu efo ennol neu enol, e.e. gorfennol, hamddenol [^ ] - atelir llythrennau unigol (neu grwpiau llythrennau) tu mewn i gromfachau sgwâr ac wedi'u blaenori gan ^ rhag y lleoliad yna, e.e. os rhowch en[^n]u, mi gewch chi bob gair yn Eurfa sy'n terfynu efo "en, rhybeth sy ddim yn n, u", e.e. blaenau, rhentu. Yn yr un modd, os rhowch a[^ch]au, mi gewch chi bob gair yn Eurfa sy ddim efo ch yn y lleoliad yna, e.e. agoriadau, amau, blasau. |
croesoGeiriau sylfaenolcroeso - welcome - eu [g]Ffurfiau berfol |
